Gwiath Cartref
Dydd Llun- Mathemateg

Dydd Mercher – Darllen

Dydd Gwener – Iaith a Sillafu

LLYFR DARLLEN
Mae angen i’r plant sicrhau eu bod nhw yn dod â’u llyfrau darllen a chofnodion darllen personol i’r ysgol bob wythnos. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau Darllen dan Arweiniad drwy’r wythnos, ac rydym yn annog y disgyblion i ddarllen gartref i oedolyn yn rheolaidd, o leiaf unwaith yr wythnos. Rydym hefyd yn annog rhieni i ysgrifennu sylwadau yn y cofnod darllen pan fydd eich plentyn wedi darllen.
GWISG YSGOL
A wnewch chi cicrhau bod enw eich plentyn wedi ei labeli yn glir ar ei wisg/gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
YMARFER CORFF
Fe fydd gwers ymarfer corff i’ch plentyn ym Mlwyddyn 3/4 ar ddydd Mawrth. Bydd angen dillad addas (e.e. ‘shorts’, crys -T) ar gyfer y wers. Diolch am eich cydweithrediad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am waith eich plentyn a / neu les yn yr ysgol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.
Diolch
Mr Kiley
